Gemau'r Gymanwlad

Gemau'r Gymanwlad
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathdigwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1930 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGemau Ymerodraeth Prydain 1930, Gemau Ymerodraeth Prydain 1934, Gemau Ymerodraeth Prydain 1938, 1946 British Empire Games, Gemau Ymerodraeth Prydain 1950, Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954, Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958, Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1962, Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966, Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970, Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1974, Gemau'r Gymanwlad 1978, Gemau'r Gymanwlad 1982, Gemau'r Gymanwlad 1986, Gemau'r Gymanwlad 1990, Gemau'r Gymanwlad 1994, Gemau'r Gymanwlad 1998, Gemau'r Gymanwlad 2002, Gemau'r Gymanwlad 2006, Gemau'r Gymanwlad 2010, Gemau'r Gymanwlad 2014, Gemau'r Gymanwlad 2018, Gemau'r Gymanwlad 2022, 2026 Commonwealth Games, 2030 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Enw brodorolCommonwealth Games Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.thecgf.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y Gymanwlad ydy Gemau'r Gymanwlad (a elwid yn Gemau Ymerodraeth Prydain (1930-1950), Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad (1954-1966) ac yn Gemau'r Gymanwlad Brydeinig (1970-1974).[1] Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn Hamilton, Ontario, Canada ym 1930 a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr Ail Ryfel Byd). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y Gemau Olympaidd a Gemau Asia.

Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.

Yn ogystal â nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys chwaraeon sy'n fwy poblogaidd yng Ngwledydd y Gymanwlad, fel bowlio lawnt, pêl-rwyd a rygbi saith bob ochr.

Er mai dim ond 53 o wledydd sydd yn aelodau o'r Gymanwlad, mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad Y Deyrnas Unedig; Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn cystadlu fel gwledydd ar wahân gyda Thiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a Thiriogaethau sy'n ddibynnol ar Goron y Deyrnas Unedig hefyd yn gyrru timau.

Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.

  1. "The Story of the Commonwealth Games". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-18. Cyrchwyd 2014-06-01. Unknown parameter |published= ignored (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search